Masterclass with Eleri Mills - Dosbarth Meistr gydag Eleri Mills
Masterclass with Eleri Mills - Dosbarth Meistr gydag Eleri Mills
Wednesday 4 September 2024, 10.30 - 4.30
A unique opportunity to spend the day creating artwork with Eleri Mills in the uplifting atmosphere of Pontcadfan, the old Wesleyan chapel recently restored by Eleri in the village of Llangadfan. During this workshop you will explore different ways of interpreting the landscape, starting off with simple mark-making techniques on paper using different tools and materials. Throughout the day Eleri will inspire and guide you to interpret these drawings and discuss how to develop ideas.
The workshop is designed to help participants on their creative journey with a maximum of 8 students.
There will be an opportunity to see examples of Eleri's artwork
All experience levels welcome.
Materials will be provided.
A wholesome lunch is included and tea, coffee and cake provided.
Dosbarth Meistr gydag Eleri Mills
Dydd Mercher 4 Medi 2024 10.30 - 4.30
Cyfle unigryw i dreulio diwrnod yn creu gwaith celf gydag Eleri Mills yn awyrgylch arbennig hen gapel Pontcadfan, Llangadfan sydd wedi cael ei atgyweirio yn ddiweddar gan Eleri. Yn ystod y gweithdy fe fyddwch yn ystyried gwahanol ffyrdd o ddehongli'r tirlun gan ddechrau trwy archwilio’r dechneg o wneud marciau syml ar bapur gyda gwahanol offer a defnyddiau.
Drwy gydol y dydd fe fydd Eleri yn eich ysbrydoli ac yn eich arwain i ddadansoddi’r darluniau hyn gan drafod sut i ddatblygu syniadau.
Bwriad y gweithdy hwn yw rhoi cymorth ichi ar eich taith greadigol.
Fe fydd cyfle i weld enghreifftiau o waith celf Eleri.
Cyfyngedig i ddim mwy nag 8 myfyriwr.
Addas ar gyfer pob lefel.
Mae sawl dewis o lety yn yr ardal.
Pris yn cynnwys defnyddiau, cinio ysgafn, te, coffi a chacen.